Mae Gordon Brown wedi dweud heddiw y byddai am barhau i fod yn arweinydd y blaid Lafur, hyd yn oed petai Llafur yn colli’r etholiad cyffredinol eleni.

“Fe garia’ i ymlaen…” meddai wrth raglen Woman’s Hour Radio 4.

Edmygydd dienw

Gofynnwyd i’r Prif Weinidog am ei ymateb wedi i sylw dienw gan Aelod Seneddol ymddangos ym mhapur newydd y Times yn dweud na ddylid “tanbrisio” Gordon Brown.

“Oni bai y byddai’r gwrthwynebiad yn y polau piniwn yn fawr ac yn bersonol, does yna ddim rheswm iddo adael y swydd ar frys,” meddai’r sylw.

Cyn hyn, y gred oedd y byddai Gordon Brown yn rhoi’r gorau i fod yn arweinydd Llafur yn syth petai’r blaid yn colli’r etholiad, a hynny er mwyn rhoi cyfle i’r genhedlaeth newydd o fewn y blaid.