Fe fydd undeb Unite yn ymgynghori eto gyda gweithwyr caban BA cyn mynd ati i gynnal cyfres o streiciau ddiwedd y mis.

Mae’r cwmni wedi rhoi cynigion newydd gerbron y gweithwyr ar y funud ola’ yn y gobaith o ddatrys anghydfod tros fwriad i newid amodau gwaith a nifer y staff ar awyrennau.

Er nad yw arweinwyr yr undeb yn cefnogi’r cynnig, fe ddywedson nhw heddiw y bydden nhw’n cynnal pleidlais ymgynghorol gyda’r staff.

Fe fydd canlyniad y bleidlais electronig ar gael erbyn canol yr wythnos nesa’ ac, os bydd y cynigion yn cael eu gwrthod, fe fydd yr undeb yn trefnu saith diwrnod o streiciau.

Saith diwrnod o streiciau

Fe fydd streic dridiau yn dechrau ar 20 Mawrth a phedwar diwrnod arall o streicio yn dechrau ar 27 Mawrth.

Mae hynny’n cadw addewid yr undeb i beidio â streicio tros gyfnod y Pasg ond, os na fydd yr anghydfod wedi’i ddatrys, fe fydd y streiciau’n ail ddechrau wedyn ar ôl Ebrill 14.

Roedd llefarydd ar ran Unite yn cydnabod y byddai’r gweithredu diwydiannol yn gwneud drwg i’r cwmni, ond roedd y gweithwyr, meddai, yn ceisio cynnal ei safonau.

Roedd yn cyhuddo’r cwmni o fod wedi defnyddio tactegau “bygythiol” yn erbyn y gweithwyr yn ystod yr wythnosau diwetha’.