Mae Israel wedi cau’r ffyrdd i mewn ac allan o ardal y Palesteiniaid ar y Lan Orllewinol, oherwydd pryderon am drais.

Y rheswm, meddai’r Israeliaid, yw’r gwrthdaro sydd wedi bod yn dilyn gweddïo mewn mosgiau yn Jerwsalem ar ddyddiau Gwener yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Maen nhw’n dweud bod nifer o brotestwyr a heddweision Iddewig wedi cael eu brifo yn y gwrthdaro, ac mae dau Balesteiniad wedi cael anafiadau difrifol.

Fe fydd y gwaharddiad ar symud i mewn ac allan o diroedd y meddiant yn parhau am 48 awr.

Tensiwn

Mae’r tensiwn wedi cynyddu ymhellach yr wythnos hon ar ôl i Israel gyhoeddi eu bod am osod rhagor o dreflannau ar dir y Palesteiniaid yn nwyrain y ddinas.

Fe gafodd y penderfyniad hwnnw ei gondemnio gan yr Unol Daleithiau yn ystod ymweliad y Dirprwy Arlywydd Joe Biden â’r Dwyrain Canol.

Yn ôl gohebydd gwasanaeth newyddion Al Jazeera yn yr ardal, roedd yna ychdydig o ymladd wedi bod y bore yma, ond dim gwrthdaro difrifol.

Mannau cysegredig

Mae’r gwrthdaro wedi’i sbarduno hefyd gan fethiant y trafodaethau heddwch a chynlluniau Israel i gynnwys dau fan cysegredig o’r Lan Orllewinol ar restr safleoedd treftadaeth genedlaethol y wlad.

Yn un o’r ardaloedd yma y mae llawer o’r gwrthdaro yn Jerwsalem, ac mae’r awdurdodau bellach wedi dweud mai dim ond dynion dros 50 oed a gwragedd fydd yn cael gweddïo yno tan nos Sadwrn.

Llun: Man croesi yn Israel