Fe fydd y Barnwr o Gymru Roderick Evans yn dedfrydu mam a llystad heddiw am ddynladdiad merch saith oed a lwgodd i farwolaeth.

Bu farw Khyra Ishaq ym mis Mai 2008 o afiechyd ar ôl newynu am fis yn ei chartref yn Handsworth, Birmingham. Roedd wedi colli 40% o bwysau ei chorff.

Ar y dechrau, fe gafodd Angela Gordon, 35, a Junaid Abuhamza, 30, eu cyhuddo o’i llofruddio ond, ar ôl asesiadau seiciatrig, fe dderbyniodd yr erlyniad eu ple o ddynladdiad ar y sail nad oedden nhw’n gwbl gyfrifol am eu hymddygiad.

Roedd y ddau hefyd wedi pledio’n euog i bum cyfrif o fod yn greulon at bump o blant eraill, nad oes modd eu henwi am resymau cyfreithiol.

Adroddiadau seiciatrig

Roedd Roderick Evans i fod i’w dedfrydu’r wythnos ddiwethaf, ond cafodd yr achos ei ohirio er mwyn iddo glywed cyflwyniadau gan seiciatryddion.

Yn ôl Paul Lewis Q.C ar ran Junaid Abuhamza, 30, mae tri seiciatrydd gwahanol wedi dyfarnu ei fod yn dioddef o sgitsoffrenia dri mis cyn marwolaeth Khyra. Yn ôl Paul Lewis doedd Abuhamza “ddim yn gallu deall” bod ei lysferch yn marw.

Fe fydd Angela Gordon a Junaid Abuhamza yn cael eu dedfrydu Llys y Goron Birmingham heddiw.

Ond mae yna holi hefyd am rôl y gwasanaethau cymdeithasol ac addysg – roedd y ferch fach wedi’i thynnu o’r ysgol ychydig fisoedd ynghynt ond, ar sawl achlysur, roedd gweithwyr cymdeithasol wedi methu â’i gweld i sicrhau ei bod yn ddiogel.

Y digwyddiadau allweddol

• Ym mis Rhagfyr 2007, fe gafodd y ferch fach ei thynnu o’r ysgol gynradd gan ei mam -Angela Gordon. Yn fuan wedi hyn, fe wnaeth dirprwy bennaeth yr ysgol gysylltu gyda gwasanaethau plant Cyngor Dinas Birmingham i godi pryderon am les y ferch fach.
• Chwefror 21, 2008 – dwy weithwraig gymdeithasol yn ymweld. Er nad ydyn nhw’n cael mynd i mewn, mae’r ddwy yn gweld Khyra yn y drws ac yn penderfynu nad ydyn nhw’n bryderus am ei lles.
• Mawrth 8 – Amandeep Kaur, cymydog, yn gweld Khyra yng ngardd gefn y tŷ’n gwisgo dim ond ei dillad isaf ar fore oer, yn denau iawn ac yn crio.
• Mai 17 – cafodd parafeddygon eu galw i’w chartref a chanfod Khyra yn farw. Roedd y ferch fach mor denau nes ei bod yn amhosibl mesur ei indecs mass y corff ar unrhyw siart.