Mae’n bosib y bydd staff British Airways yn mynd ar streic ar ôl y Pasg ar ôl i drafodaethau rhwng arweinwyr undeb a’r cwmni hedfan ddod i ben neithiwr.
Mae arweinwyr undeb Unite yn trafod eu cam nesaf allai olygu cyhoeddi dyddiad i streicio ar ôl Mawrth 18.
Daeth unrhyw obaith o ddatrys yr anghydfod i ben neithiwr wrth i’r cwmni hedfan ac undeb Unite fethu â dod i gytundeb.
Mae 12,500 o aelodau criw caban yr undeb wedi pleidleisio ddwywaith o blaid gweithredu diwydiannol. Ond fe enillodd y cwmni achos cyfreithiol yn erbyn yr undeb gan atal streic dros y Nadolig.
Mae’r undeb wedi diystyru cynnal streic dros y Pasg a bydd rhaid i Unite roi saith diwrnod o rybudd cyn gweithredu.

Dim mwy o drafod ar hyn o bryd
Yn dilyn methiant y trafodaethau dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC Brendan Barber neithiwr, mae disgwyl gwrthdaro chwerw rhwng y ddwy ochr.
“Er gwaethaf trafodaethau hir, nid yw wedi bod yn bosibl i BA ac Unite ddod i gytundeb,” meddai Brendan Barber.
“Yn dilyn hyn, bydd y ddwy ochr yn trafod y sefyllfa ac fe fydd y TUC yn cadw golwg ar bethau, ond ar hyn o bryd does dim trafodaethau pellach ar y gweill.”
Meddai llefarydd ar ran Unite:
“Fe fydd cynrychiolwyr Unite yn cyfarfod i drafod be sydd wedi digwydd. Os ydi BA yn dymuno gwneud cynnig gwell, mae ganddyn nhw amser i wneud hynny.”