Fe fydd cynllun newydd yn ceisio dysgu rhagor am un o bysgod mwya’ arbennig Cymru – er mwyn cynyddu eu niferoedd a chryfhau’r diwydiant pysgota yn afonydd y wlad.
Y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, fydd yn lansio’r cynllun gwyddonol gwerth £1.8 miliwn, sy’n cael ei gynnal ar y cyd rhwng Iwerddon a Chymru.
Y nod yw dysgu sut y mae newidiadau yn yr amgylchedd yn effeithio ar y pysgod sy’n cael eu hystyried yn un o drysorau pennaf afonydd Cymru ac yn denu llawer o bysgotwyr yma.
Fe fydd gwyddonwyr yn cymryd samplau o’r pysgod o 80 o afonydd i gyd, gydag astudiaethau manwl mewn 20 o’r rheiny.
Bylchau mawr
Yn ôl y gwyddonwyr, mae yna fylchau mawr yn ein gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd i’r pysgod allan yn y môr – maen nhw’n cael eu deor mewn afonydd, yn treulio amser yn y môr ac yna’n dod yn ôl i’w hafonydd gwreiddiol.
Fe fydd y cynllun yn ceisio:
• Dysgu ble mae’r pysgod yn mynd yn y môr a beth yw eu patrwm byw a beth sy’n digwydd iddyn nhw yno.
• Ffeindio pa bwysau sydd arnyn nhw, yn amgylcheddol ac fel arall.
• Darganfod beth yw effaith newid amgylcheddol arnyn nhw.
Nod y cynllun yn y pen draw yw deall a disgrifio cyflwr y sewin ym Môr Iwerddon er mwyn gwella pysgota yng Nghymru ac Iwerddon, gan gyfrannu at economi’r ddwy wlad ac amrywiaeth eu bywyd gwyllt.
Llun: Sewin (o wefan y cynllun)