Does “dim tystiolaeth” fod bachgen 5 oed o Loegr a gafodd ei gipio gan ddynion arfog ym Mhacistan wedi cael ei achub.
Mae diplomyddion Prydeinig yn eu bod nhw’n ymchwilio’n “ar unwaith” i adroddiadau bod heddlu lleol wedi dod o hyd i Sahil Saeed o Oldham.
Yn ôl adroddiadau, fe gafodd y bachgen ei gipio gan ddynion arfog yn nhŷ ei nain yn Jhelum, yn y Punjab, ddydd Iau diwethaf.
Mae yna ddirgelwch am dad y bachgen hefyd, gyda rhai adroddiadau’n honni bod Raja Naqqash Saeed eisoes wedi dychwelyd i wledydd Prydain.
Roedd ef gyda’i fab ar y daith i Bacistan ac, yn ôl y teulu, roedd y ddau ar fin hedfan yn ôl pan gafodd y bachgen ei gipio.
Dim tystiolaeth
Roedd Sky News wedi honni ddoe bod yr awdurdodau wedi dod o hyd i’r bachgen, gan ddyfynnu swyddogion Llywodraeth Pacistan.
Er hyn, mae llefarydd ar ran Uchel Gomisiwn Prydain yn Islamabad yn dweud nad ydyn nhw wedi derbyn “unrhyw dystiolaeth” eto.
Dros y penwythnos, roedd Prif Weinidog Pacistan, Yousuf Raza Gilani, wedi ffonio tad y bachgen i’w sicrhau bod yr awdurdodau’n gwneud “popeth o fewn eu gallu” i ddod o hyd i’r bachgen.
Llun: Plismon y tu allan i gartref Sahil Saeed yn Oldham (Gwifren PA)