Mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi annog llywodraeth Afghanistan i setlo gyda gwrthryfelwyr Y Taliban i ddod â rhyfel Afghanistan i ben.

Dywedodd David Miliband bod “llwyddiant y milwyr” yn ei gwneud hi’n bosibl i’r ddwy ochr “ddod at ei gilydd”.

“Nawr yw’r amser i bobol Afghanistan fynd i’r afael â setlo gyda gwrthryfelwyr. Mae angen iddyn nhw wneud hynny gyda’r un grym ag sydd yn yr ymdrech filwrol a sifil,” meddai David Miliband mewn araith yn yr Unol Daleithiau.

‘Gwleidyddiaeth yn cynnig ateb’

Er mai trais ofnadwy oedd wedi dechrau’r rhyfel, fe allai gwleidyddiaeth ddod ag ef i ben, meddai, gan fynnu nad oedd mwyafrif y gwrthryfelwyr wedi ymrwymo i weledigaeth eithafol al-Qaida.

Anfodlonrwydd ynglŷn â chynnydd yn y byddinoedd rhyngwladol a llygredd o fewn llywodraeth Afghanistan sy’n ysgogi llawer, meddai – ond fyddai yna ddim cyfaddawdu gyda’r eithafwyr.

Fe ddywedodd Arlywydd Afghanistan yr wythnos hon y byddai cynllun gweithredu i geisio denu gwrthryfelwyr y Taliban yn dod i rym yn y gwanwyn.