Mae cwestiynau’r Prif Weinidog a thrafodaethau eraill y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael eu gohirio heddiw, oherwydd streic gan weision sifil.
Yn lle hynny, fe fydd Aelodau Cynulliad yn eistedd am naw awr yfory, rhwng 10.30 y bore a 7.30 y nos, er mwyn ceisio clirio’r gwaith.
Dyma ail ddiwrnod y streic ddeuddydd gan aelodau PCS Cymru, Undeb y Gwasanaethau Masnachol a Chyhoeddus. Mae’n cynnwys Canolfannau Gwaith a swyddfeydd eraill, fel Canolfan Drwyddedu y DVLA yn Abertawe.
Mae ACau Llafur a Phlaid Cymru hefyd wedi gwrthod croesi llinellau piced ond maen nhw wedi cael eu beirniadu am hynny gan y Ceidwadwyr yn y Bae.
Mae adeilad y Pier ac adeilad y Senedd ynghau heddiw a dim ond pobol gyda phas neu fusnes angenrheidiol fydd yn cael mynd i’r swyddfeydd yn Nhŷ Hywel gerllaw.
Roedd yr undeb yn honni bod tuag 16,000 o weision sifil wedi bod ar streic ddoe ond roedd y Llywodraeth yn dweud nad oedd gormod o effaith, gyda pob canolfan waith ar agor.
‘Peryglus’
Er ei fod yn cefnogi hawl y gweision sifil i fynd ar streic, roedd arweinydd y Torïaid, Nick Bourne, yn poeni am y penderfyniad i ganslo gwaith y Cynulliad am y dydd.
“Mae’n gynsail peryglus,” meddai. “Dw i’n siŵr y byddai’r undeb yn derbyn yr angen i barhau i weithio fel arfer yn cynrychioli pobol Cymru.”
Mae’r undeb yn protestio yn erbyn bwriad Llywodraeth Gwledydd Prydain i dorri ar eu cynllun diswyddo.
Er bod undebau eraill o fewn y gwasanaeth sifil wedi derbyn y trefniadau newydd, mae’r PCS yn pwysleisio eu bod nhw’n cynrychioli’r gweithwyr cyffredin sydd ar reng flaen y gwasanaethau cyhoeddus.
Yn ôl yr undeb yng Nghymru, mae’r Llywodraeth yn paratoi i ddiswyddo gweision sifil a gwneud hynny yn rhad.
“Fe fydd y toriadau yn y cynllun diswyddo’n golygu bod gweision sifil a chyhoeddus yn colli miloedd o bunnoedd os ydyn nhw’n colli eu gwaith.”
Llun: Swyddfeydd y Cynulliad