Mae Gareth Delve wedi cael ei ychwanegu at garfan Cymru sy’n paratoi i wynebu Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Croke Park dydd Sadwrn.
Fe ddaw’r newyddion yn hwb i flaenwyr Cymru, sydd wedi colli Alun-Wyn Jones a Deiniol Jones i anafiadau; ynghyd ag Andy Powell a gafodd ei ollwng o’r garfan.
Mae yna amheuon ynglŷn â ffitrwydd capten Cymru, Ryan Jones sydd wedi anafu ei goes.
Delve yn dychwelyd
Dyma’r tro cyntaf i Gareth Delve, sydd wedi ennill pedwar cap dros Gymru, i fod yn rhan o’r garfan ryngwladol ers 2008.
“R’yn ni’n disgwyl i Ryan Jones fod yn iawn”, meddai hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Neil Jenkins, “ond r’yn ni wedi galw ar Gareth i roi hwb i’r blaenwyr ac i fod ar gael i lanw’r bwlch yn y rheng ôl.
“R’yn ni wedi bod yn cadw llygad arno, ac r’yn ni’n credu ei fod e wedi bod yn chwarae’n dda. Fe allai wneud job i ni, pe bai ei angen.”