Mae Darcy Blake wedi cael ei ganmol ar ôl ei berfformiad yn ystod gêm Caerdydd yn erbyn Middlesborough dros y Sul… ond mae ef ei hun yn canmol y cyfnod y treuliodd ar fenthyg gyda Plymouth yn ne orllewin Lloegr.
Ond os oedd Dave Jones, rheolwr Caerdydd, hefyd yn ei ganmol yn dilyn buddugoliaeth 1-0 Caerdydd, nid felly oedd pethau yn y gorffennol.
“Pan o’n i ddim yn chwarae, doedd fy ffordd o fyw i ddim yn dda iawn,” meddai Darcy Blake, “ac yn amlwg, roedd e’n cael effaith ar y ffordd o’n i’n chwarae ac yn hyfforddi.
“Dw i wedi bod bant, wedi sortio pethe mas, ac wedi dod yn ôl a chynnal y ffordd o fyw.
Dw i’n teimlo’n ffit ac yn ffres.”
Newid agwedd yn Plymouth
“Roedd fy amser gyda Plymouth yn gyfnod da, a dw i wedi dod yn ôl oddi yno yn well chwaraewr,” meddai Darcy Blake. “Mae’n wych cael bod yn ôl yn rhan o dim Caerdydd.
“Ches i ddim chwarae llawer yn Plymouth, ond mae fy agwedd i wedi newid ac mae popeth yn mynd yn iawn nawr.
“Dw i wedi siarad gyda’r rheolwr am gadw amser, deiet a sut mae’r pethau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Dw i’n sylweddoli beth sydd angen i mi wneud.”