Mae Cadeirydd Cymdeithas Cyfeillion Radio Ceredigion wedi ymateb y prynhawn yma i’r newyddion fod gorsaf Radio Ceredigion wedi ei gwerthu.

“Mae’n dristwch mawr i mi fel Cadeirydd Cymdeithas Cyfeillion Radio Ceredigion i glywed bod yr orsaf wedi eu gwerthu i gwmni Town and Country Broadcasting,” meddai Geraint Davies mewn llythyr at Golwg 360.

“Rwy’n tristhau ymhellach wrth glywed bod y brif stiwdio a’r pencadlys yn Aberystwyth yn cau ac y bydd nifer o’r staff yn colli eu swyddi.

“Mae’n siomedig i glywed taw Arberth yn Sir Benfro fydd cartref newydd yr Orsaf.

Pryder tros raglenni newydd

“Mae Radio Ceredigion wedi bod yn gwmni mawr i filoedd o bobol Ceredigion a thu hwnt ers yn agos i ddeunaw mlynedd,” meddai Geraint Davies. “Ond, yn anffodus, rwy’n rhagweld y bydd y rhaglenni hynny sydd wedi plesio cymaint yn diflannu.

“Cryfderau mwyaf Radio Ceredigion yw’r elfen gymunedol a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

“Oherwydd y bygythiad i hyn, rwyf am gysylltu ar frys gyda’r perchnogion newydd er mwyn trefnu cyfarfod i drafod ei cynlluniau ac i geisio sicrhau bydd yr orsaf yn parhau i ddarparu gwasanaeth amrywiol dwyieithog o’r safon uchaf.”

Cyflwynydd a gwirfoddolwr

Fe fu Geraint Davies yn Gadeirydd Bwrdd Radio Ceredigion rhwng 1996 a 2002.

Mae’n un o wirfoddolwyr yr orsaf ac yn gyflwynydd y rhaglen chwaraeon ‘O’r Maes’ ar brynhawn Sadwrn ers 1992.