Fe fydd tuag 20,000 o weision sifil yng Nghymru’n mynd ar streic heddiw a fory.
Mae’r gweithredu’n debyg o effeithio ar Ganolfannau Gwaith, llysoedd, swyddfeydd treth, Canolfan Drwyddedu’r DVLA yn Abertawe, swyddogion yr Asiantaeth Ffiniau ac arholwyr mewn profion gyrru.
Fe allai effeithio hefyd ar waith y Cynulliad Cenedlaethol, gan fod aelodau Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yn dweud na fyddan nhw’n croesi llinellau piced.
Aelodau undeb y gwasanaethau cyhoeddus a masnachol , y PCS, ydyn nhw, yn protestio’n erbyn bwriad y Llywodraeth i newid amodau diswyddo.
Dyma bumed undeb mwya’r gwledydd Prydain ac mae disgwyl rhagor o weithredu diwydiannol trwy gydol mis Mawrth
Colli
Er bod rhai gweision sifil eisoes wedi derbyn yr amodau newydd, mae’r undeb yn honni y bydd eu haelodau’n colli un rhan o dair o’u buddiannau.
Trwy wledydd Prydain, mae disgwyl i 270,000 fod ar streic ac fe fydd ralïau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhai yn Abertawe a Chaerdydd.
Er bod y Llywodraeth yn honni mai’r bwriad yw arbed tua £500 miliwn, mae’r gweithwyr yn eu cyhuddo o baratoi’r ffordd i gael gwared ar filoedd o swyddi ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.
‘Sinigaidd’ – y ddadl
“Mae’r toriadau yma’n ymwneud mwy â gwleidydda amrwd, yn hytrach nag arbed arian,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y PCS, y Cymro Mark Serwotka.
“Mae’n ymgais sinigaidd i geisio torri swyddi’n rhad. Yn y pen draw, fe fydd yn difrodi’r gwasanaethau yr ’yn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.”
Mae’r undeb yn dweud eu bod wedi cynnig syniadau eraill i’r Llywodraeth, a fyddai’n arbed yr arian heb newid yr amodau.
Y ddadl o’r ochr arall yw bod y trefniadau diswyddo newydd yn parhau i fod yn llawer gwell na’r rhan fwya’ o drefniadau yn y sector preifat.
Llun: Aelodau o’r PCDS yn prtoestio (gwefan yr undeb)