Rhaid gofalu na fydd cynlluniau i hyrwyddo’r Gymraeg yn arwain at ‘apartheid ieithyddol’ yng Nghymru, yn ôl Aelod Cynulliad Torïaidd blaenllaw.

Wrth annerch cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llandudno heddiw, dywedodd Paul Davies, AC Preseli Penfro a Gweinidog Addysg yr Wrthblaid, y byddai ei blaid yn cefnogi “mesurau synhwyrol” i amddiffyn yr iaith Gymraeg a chynyddu ei defnydd.

Ar yr un pryd, meddai, roedd yn rhaid i’r system addysg gydnabod anghenion siaradwyr Saesneg yn ogystal.

“Rhaid i siaradwyr Cymraeg a Saesneg gael eu trin ar sail cyfartal – byddai unrhyw beth arall yn annerbyniol,” meddai.

“Ni fydd unrhyw ddinasyddion ail-ddosbarth o dan Llywodraeth y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad.

“Fe fyddwn ni’n ymladd i sicrhau bod hawliau siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn cael eu gwarchod.

“Wnawn ni ddim dioddef apartheid ieithyddol yma yng Nghymru.”