Mae 36 o bobl wedi cael eu lladd yn Irac heddiw wrth i wrthryfelwyr geisio rhwystro pobl rhag cymryd rhan yn etholiad cyffredinol y wlad.
Cafodd gorsaf bleidleisio ei bomio a thaflwyd grenadau at bleidleiswyr yn ystod y dydd, ar ôl i tua 20 o ymosodiadau mortar ddigwydd yng ngogledd Baghdad yn gynnar y bore yma, pryd y cafodd tua 19 o bobl eu lladd.
Wrth i’r gorsafoedd gau am 5 y prynhawn yma yn ein hamser ni, dywedodd swyddogion etholiadol y gallai gymryd dyddiau cyn cyhoeddi’r canlyniadau cychwynnol.
Gallai gymryd misoedd o drafodaethau wedyn cyn ffurfio llywodraeth.
Mae’r Prif Weinidog Nouri al-Maliki yn brwydro am ei ddyfodol gwleidyddol wrth iddo gael ei herio gan glymbleidiau o garfannau Shiite ar y naill law a chynghrair seciwlar ar y llaw arall.
Gobaith llawer o Iraciaid yw y bydd yr etholiad yn eu harwain at gymod rhwng gwahanol garfannau crefyddol yn y wlad wrth i Unol Daleithiau America baratoi at ddechrau anfon ei milwyr adref yn ystod yr haf.
Wrth ganmol y bobl a bleidleisiodd yn etholiad Irac heddiw, meddai Arlywydd America, Barack Obama:
“Rydym yn galaru yn y bywydau a gafodd eu colli heddiw, ac yn anrhydeddu dewrder a gwydnwch pobl Irac sydd unwaith eto wedi herio bygythiadau er mwyn symud eu democratiaeth ymlaen.”
Er mwyn ceisio sicrhau bod yr etholiad yn digwydd, roedd llywodraeth Irac wedi cyflwyno mesurau diogelwch llym, gan gynnwys selio ei ffiniau, cau’r maes awyr a rhoi miloedd o filwyr a phlismyn ar y strydoedd.
Llun: Fel rhan o’r mesurau diogelwch, roedd pleidleiswyr yn cael eu harchwilio’n fanwl cyn mynd i mewn i’r gorsafoedd pleidleisio, fel yn yr orsaf yma yn Baghdad (AP Photo/Karim Kadim)