Mae arweinwyr undebau sy’n cynrychioli gweithwyr caban British Airways wedi cynnig cymryd toriad cyflog o 3.4% er mwyn osgoi streiciau dros yr wythnosau nesaf.
Dywedodd ffynhonnell wrth asiantaeth newyddion y Press Association bod undeb Unite wedi cynnig pecyn ariannol i’r cwmni awyrennau a fyddai’n torri costau £60 miliwn.
Bydd rhaid i BA dderbyn y cytundeb erbyn dydd Mawrth neu fe fydd y gweithwyr yn streicio, meddai Unite.
Ffraeo
Mae’r undeb a’r cwmni wedi bod yn ffraeo ers misoedd dros amodau gweithio a thâl, ac mae aelodau Unite wedi pleidleisio ddwywaith o blaid gweithredu’n ddiwydiannol.
Mae BA wedi lleihau nifer staff y criwiau caban er mwyn arbed arian ac mae’r Prif Weithredwr Wille Walsh wedi pwysleisio na fydd hynny’n newid.
Bydd rhaid i Unite gyhoeddi unrhyw streiciau erbyn 15 Mawrth ond maen nhw eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n streicio dros wyliau’r Pasg.