Mae gwleidyddion o Blaid Unoliaethol Ulster – yr UUP – yn ystyried a ydyn nhw’n mynd i gefnogi datganoli pwerau dros yr heddlu i Ogledd Iwerddon.

Er bod gan Sinn Feinn a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd – y DUP – ddigon o aelodau cynulliad i wthio’r cytundeb drwy Stormont, maen nhw’n gobeithio am bleidlais unfrydol o blaid yr wythnos nesa’.

Mae’r prif bleidiau yn honni y byddai pleidlais unfrydol yn gyrru neges i grwpiau ar ymylon gwleidyddiaeth y wlad gan ddangos nad oes modd tanseilio’r cytundeb heddwch.

Mae grwpiau bach gweriniaethol – fel y Real IRA – wedi bod yn ymosod ar dargedi ymhlith yr heddlu yn ystod yr wythnosau diwetha’.

Byddai’n gamgymeriad i unrhyw un bleidleisio yn erbyn y cytundeb, yn ôl arweinydd yr Unoliaethwyr Democrataidd, Peter Robinson (dde). Dywedodd y byddai fel pleidleisio yn erbyn dyfodol Llywodraeth Stormont.

Dyfodol datganoli

“Mae’n bleidlais ynglŷn â dyfodol datganoli,” meddai. “Mae pobol eisiau iddo weithio, mae pobol eisiau ei weld yn symud ymlaen.

“Fi yw’r cyntaf i gyfaddef nad oes gyda ni sustem berffaith, nid dyma’r sustem fydden ni wedi ei dewis ond dyma’r sustem sydd gyda ni.

“Mae wedi sicrhau heddwch yng Ngogledd Iwerddon a dw i ddim yn meddwl y byddai neb yn cael maddeuant pe taen nhw’n ei daflu heibio.”

Mae disgwyl i Blaid Unoliaethol Ulster benderfynu’n derfynol dros y penwythnos.