Fe gafodd streic ym mhorthladd prysura’ Cymru ei hatal ar y funud ola’.

Mae’r cyflogwyr a’r gweithwyr bellach wedi cytuno ar gyfnod arall o 28 diwrnod o drafod i geisio datrys anghydfod tros gronfeydd pensiwn.

Roedd disgwyl y byddai peilotiaid a’u criwiau ym mhorthladd Aberdaugleddau yn mynd ar streic y bore yma, ond fe ddaethpwyd i gytundeb tros nos.

Fe allai’r anghydfod greu problemau mawr yn y porthladd sy’n derbyn chwarter holl olew a disel gwledydd Prydain.

Mae’r peilotiaid, sy’n helpu i dywys llongau mawr i mewn i’r harbwr, yn anhapus am fod Awdurdod y Porthladd yn bwriadu newid cynlluniau pensiwn.

Mae’r criwiau ar y cychod sy’n mynd â’r peilotiaid allan at y tanceri olew hefyd yn rhan o’r anghydfod.

Mae Awdurdod y Porthladd yn mynnu bod rhaid newid y cynlluniau pensiwn ond yn honni eu bod yn dal i gynnig amodau da.

Llun: Harbwr Aberdaugleddau (o wefan Awdurdod y Porthladd)