Mae pennaeth lluoedd arfog yr Unol Daleithiau a Nato yn Afghanistan wedi ymddiheuro i bobol y wlad am ymosodiad a laddodd 21 o bobol gyffredin dros y penwythnos.

Yn ôl rhai adroddiadau, mae cyfanswm y marwolaethau yn 27.

Wrth siarad ar fideo a gafodd ei gyfieithu i ieithodd Dari a Pashto, a’i gyhoeddi ar wefan Nato, dywedodd y Cadfridog Stanley McChrystal y byddai’n gweithio i adennill ffydd y bobol.

Dywedodd hefyd fod ymchwiliad wedi dechrau i’r digwyddiad er mwyn sicrhau na fyddai dim camgymeriad o’r fath yn digwydd eto.

Mae awdurdodau Afghanistan wedi beirniadu’r lluoedd rhyngwladol am yr ymosodiad awyr a darodd res o gerbydau yn nhalaith Uruzgan ddydd Sul.

Roedd y Cadfridog McChrystal eisoes wedi ymddiheuro i arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai, sydd wedi galw ar y lluoedd rhyngwladol i wneud mwy i ddiogelu pobol gyffredin.

Cysylltiadau cyhoeddus

Mae’r fideo’n rhan o ymgyrch gysylltiadau cyhoeddus gan y lluoedd rhyngwladol i geisio cadw cefnogaeth pobol Afghanistan i’w hymgyrch yn erbyn y Taliban.

Ond mae adroddiadau lleol yn awgrymu fod cefnogaeth i ymgyrch Moshstarak yn wan, yn enwedig gan mai dyma’r ail ymddiheuriad o fewn naw niwrnod gan y lluoedd rhyngwladol am achosi marwolaethau pobol gyffredin.

Cafodd 12 o bobol gyffredin eu lladd ar 14 Chwefror, ar ôl i rocedi Americanaidd daro tŷ ar ddamwain, gan ladd 12 o bobol, gan gynnwys chwech o blant.

Llun: Milwyr yn Afghanistan