Gweriniaethwyr ymylol sydd wedi cael eu beio am osod bom mewn car y tu allan i lys barn yng Ngogledd Iwerddon neithiwr.

Roedd yr heddlu wrthi’n gwagio’r adeilad yn Newry pan ffrwydrodd y bom – roedd dau rybudd wedi’u rhoi ymlaen llaw.

Yn ôl un o brif swyddogion Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, yr Uwch Arolygydd Sam Cordiner, “dim ond drwy ryfedd wyrth y cafodd neb eu hanafu”.

Daw’r ymosodiad rai wythnosau ar ôl i ddwy brif blaid y rhanbarth, Sinn Fein a’r DUP, ddod i gytundeb ynglŷn â datganoli grym dros gyfraith a threfn o Lundain i Belffast.

Newry

Cafodd prif gatiau’r llys eu difrodi’n wael gan y ffrwydrad a ddigwyddodd am tua 10:30pm neithiwr yn y dref yn Swydd Down.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau sydd wedi cael eu beio ar weriniaethwyr ymylol sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Mae ymosodiadau eraill wedi bod ar blismyn, gorsafoedd heddlu, a byddin Prydain.