Mae barnwr Uchel Lys wedi gwahardd streic a allai fod wedi creu trafferthion mawr ym mhorthladd prysura’ Cymru.

Fe benderfynodd Mr Ustus Sweeney o blaid Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau gan osod gwaharddiad dros dro yn erbyn y gweithredu gan undeb Unite.

Doedd y rhybuddion ynglŷn â’r gweithredu diwydiannol ddim yn cydymffurfio â gofynion y gyfraith, meddai.

Roedd 50 o aelodau’r undeb yn bwriadu streicio fory a ddydd Gwener gan ei gwneud yn amhosib i ddod â llongau mawr i mewn i’r harbwr.

Mae’r gweithwyr – peilotiaid sy’n helpu i lywio llongau a chriwiau’r cychod sy’n eu cario yn ôl ac ymlaen – yn cwyno oherwydd bwriad i newid eu cynlluniau pensiwn.

Maen nhw a swyddogion yr Awdurdod wedi bod yn trafod ers wythnosau o dan adain y corff cymodi, Acas.

Trwy Aberdaugleddau y mae chwarter holl betrol a disel gwledydd Prydain yn cael ei fewnforio.

Llun: Aberdaugleddau (o wefan Awdurdod y Porthladd)