Fe fu gostyngiad bach mewn diweithdra yng Nghymru yn ystod tri mis ola’ 2009.

Ond yma y mae’r raddfa waetha’ o hyd o blith pedair gwlad y Deyrnas Unedig ac mae’r ffigurau’n ymwneud â’r cyfnod cyn y Nadolig pan oedd siopau’n gwneud yn dda.

Roedd yna hefyd cynnydd bach yng Nghymru  yn y nifer sy’n hawlio lwfans chwilio am waith a chynnydd o fwy na 23,000 trwy wledydd Prydain.

O ran rhanbarthau, dim ond mewn pedwar rhanbarth yn Lloegr y mae lefel diweithdra’n uwch.

Fe gyhoeddodd y Llywodraeth bod 122,000 o bobol tros 16 oed yn ddi-waith yng Nghymru yn y tri mis hyd at ddiwedd Rhagfyr – gostyngiad bach o 2,000.

Trwy’r Deyrnas Unedig, mae’r ffigwr yn 2.46 miliwn o bobol, gyda lleihad bychan iawn.

Mae hynny’n golygu cyfradd o 8.6%, sy’n uwch na’r lefel Brydeinig o 7.8%.

Y gwledydd eraill

Dyma’r lefelau yn y gwledydd eraill:

Lloegr 7.9%
Yr Alban 7.6%
Gog. Iw. 6.0%

Llai’n weithgar yn economaidd

Ymhlith y ffigurau eraill, roedd yna gynnydd yn nifer y bobol o fewn oed gweithio sydd heb fod yn weithgar yn economaidd.

Yng Nghymru, mae’r ffigwr hwnnw wedi codi ychydig i 24.3% – dri phwynt yn uwch na’r cyfartaledd trwy wledydd Prydain.