Prif enillydd gwobrau pop y Brits neithiwr oedd y gantores ecsentrig o Efrog Newydd, Lady Gaga.
A hithau mewn dillad yr un mor eithafol ag arfer, fe lwyddodd y berfformwraig 23 oed i gipio teitlau’r artist benywaidd rhyngwladol unigol, yr albwm rhyngwladol a’r artist rhyngwladol newydd.
Fe gyflwynodd y gwobrau er cof am y dylunydd ffasiwn Alexander McQueen a fu farw’r wythnos diwethaf.
Y drydedd wobr i Lady Gaga – a oedd yn gwisgo masg a wig wen anferth – am yr albwm ‘The Fame’, oedd y bwysica’, meddai.
“Roeddwn i wedi cynhyrfu’n lan ar ôl ennill y ddwy wobr gyntaf. Ond, mae’r wobr yma’n golygu hyd yn oed mwy i mi gan fy mod i wedi gweithio ar yr albwm gyhyd.
“Roedd fy nghefnogwyr yn credu yn fy ngwaith cyn neb. Diolch yn fawr,” meddai mewn araith emosiynol ar ôl i’r bersonoliaeth deledu Cat Deeley gyflwyno’r wobr iddi.
Ymhlith yr enillwyr eraill oedd y rapwyr Dizzee Rascal a Jay-Z, y Spice Girls, Robbie Williams a JLS.
• Yr unig brif wobrau gyda chysylltiad Cymreig oedd yr un am yr albwm orau i Lily Allen, sydd â chysylltiadau teuluol ag Abertawe, ac albwm Oasis, What’s the Story Morning Glory – hwnnw a ddewiswyd yn albwm gorau’r 30 mlynedd diwetha’ ac fe gafodd rhannau eu recordio yn Rockfield ger Trefynwy.