Fe fydd barnwr Uchel Lys yn penderfynu heddiw a fydd streic yn atal llongau ym mhorthladd prysura’ Cymru.
Mae Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau’n ceisio rhwystro peilotiaid a chriwiau cysylltiedig rhag streicio am ddeuddydd ddiwedd yr wythnos.
Ddoe, fe ymddangosodd eu cynrychiolwyr gerbron yr Uchel Lys yn Llundain i honni nad oedd undeb Unite wedi dilyn y rheolau wrth roi gwybod iddyn nhw am y gweithredu diwydiannol.
Fe ddywedodd y barnwr, Mr Ustus Sweeney, y byddai’n rhoi ei ddyfarniad y bore yma.
Anghydfod tros bensiwn
Fe fyddai’r streic yn cynnwys tua 50 o aelodau’r undeb – y peilotiaid sy’n helpu tanceri olew mawr i mewn i’r harbwr, a chriwiau’r cychod sy’n mynd a dod â nhw.
Fe fu’r ddwy ochr yn trafod yn hwyr neithiwr i geisio datrys yr anghydfod – mae cyfarfodydd wedi bod ar droed ers pythefnos.
Achos y ddadl yw bwriad yr Awdurdod i newid y cynllun pensiwn. Maen nhw’n dweud na allan nhw fforddio’r hen system ond eu bod yn dal i gynnig pecyn ffafriol i’r gweithwyr.
Trwy Aberdaugleddau y mae 25% o holl betrol a disel gwledydd Prydain yn cyrraedd