Dyw’r rhan fwya’ o aelodau rheithgor ddim yn deall neu gofio union fanylion cyfreithiol y prif gwestiynau y mae barnwyr yn eu gosod o’u blaen.
Ond, ar y cyfan, mae adroddiad newydd yn awgrymu bod achosion llys yn deg ac nad yw rheithgorau’n dangos rhagfarn yn erbyn pobol o grwpiau ethnig llai.
Y prif awgrym am newid yw gwella dealltwriaeth y rheithwyr o gyfarwyddiadau barnwyr – efallai trwy ddefnyddio system o gardiau yn rhoi cyfarwyddyd.
Eisoes, mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Jack Straw, wedi dweud y bydd y Llywodraeth yn ystyried yr argymhellion ar hynny.
Roedd tîm o ymchwilwyr o Goleg Prifysgol Llundain – UCL – wedi treulio dwy flynedd yn edrych ar y dyfarniadau mewn 68,000 o achosion, yn holi rheithwyr yn Llys y Goron Winchester ac yn cynnal ffug achosion.
Holi am ddau bwynt
O dan arweiniad yr Athro Cheryl Thomas, roedden nhw wedi holi’r rheithwyr yn Winchester – Caerwynt – am y ddau brif ddarn o gyngor cyfreithiol yr oedden nhw wedi ei gael gan y barnwyr.
• Dim ond 31% oedd yn cofio ac yn deall y ddau bwynt yn llawn – fel yr oedd y barnwr wedi’u gosod
• Roedd 48% arall wedi deall a chofio un.
• Doedd y gweddill ddim wedi deall na chofio’r naill na’r llall.
Roedd yr ymchwil yn dangos bod y canlyniadau’n well pan oedd cyngor wedi ei roi ar bapur.
Dim gwahaniaethu annheg
Dyma rai o’r casgliadau pwysig eraill:
• Doedd rheithgorau o bobol wyn ddim yn gwahaniaethu’n annheg yn erbyn pobol o leiafrifoedd ethnig nac yn gwahaniaethu o blaid pobol wyn mewn achosion hiliol.
• Roedd mwyafrif rheithgorau – 55% – yn dyfarnu’n euog mewn achosion o dreisio.
• Er bod y barnwr yn eu rhybuddio i beidio, roedd 26% o reithwyr yn gweld gwybodaeth am eu hachosion ar y We a 12% yn mynd ati’n fwriadol i chwilio am fanylion.
Ymateb Jack Straw
Yr Adran Gyfiawnder oedd wedi comisiynu’r adroddiad ac fe ddywedodd yr Ysgrifennydd, Jack Straw, bod mwyafrif y casgliadau’n newyddion da.
“Mae’r system reithgorau’n gweithio ac yn gweithio’n dda,” meddai. “Bydd casgliadau’r astudiaeth am degwch penderfyniadau’r rheithgorau – gan gynnwys rhai’n ymwneud â phobol o gefndir du neu leiafrifoedd ethnig – yn help i gynnal hyder y bobol mewn rheithwyr a’r system reithgorau.”
Fe ddywedodd Cheryl Thomas bod angen i reithwyr ddeall yr union bwyntiau cyfreithiol, yn hytrach na dim ond yr egwyddor cyffredinol.
Llun: Jack Straw – rheithgorau’n gweithio’n dda