Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, wedi dweud nad yw ei freuddwyd o sicrhau dyrchafiad awtomatig i’r Uwch Gynghrair ddim ar ben.
Mae Caerdydd yn bumed yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, ond dywedodd Jones y bydd ei dîm yn brwydro tan ddiwedd y tymor er mwyn osgoi’r gemau ail gyfle.
“Fe fydd yn ymdrech enfawr o nawr tan ddiwedd y tymor. Ond dyw e ddim yn amhosib,” meddai.
“D’yn ni ddim yn mynd i roi’r gorau iddi nawr a dweud nad yw’r safleoedd cyntaf a’r ail o fewn ein gafael ni.”
Anafiadau
Mae gan Gaerdydd restr anafiadau hir, ac mae Dave Jones yn credu y bydd hi’n dipyn o gamp cadw’r momentwm tan ddiwedd y tymor.
“Yr unig ffordd i ymdopi â sefyllfaoedd anodd fel yma yw parhau i frwydro, a dyna beth mae’r chwaraewyr yn mynd i’w wneud,” meddai.
“Y timau sydd heb fod yn credu eu bod nhw’n mynd i ennill gemau fydd yn wynebu problemau.
“Dyma pam yr ydw i’n dweud na ddylen ni roi’r gorau iddi yn y Bencampwriaeth. Mae’n gynghrair gwallgo’ – mae’r tabl fel bwrdd snakes and ladders.”
Canmol Wildig
Mae Dave Jones wedi canmol y chwaraewr canol cae ifanc, Aaron Wildig, am ei berfformiadau diweddar.
“Mae Aaron wedi gwneud yn wych ac mae wedi dysgu’n gyflym,” meddai Jones am y llanc 18 oed.
“Mae’n gyfforddus ar y bêl ac mae’n pasio’n dda. Fe fydd yn cryfhau ac yn gwella wrth iddo ymarfer gyda ni. Mae ganddo ddyfodol mawr gyda’r clwb.”
Ond mae Dave Jones yn poeni y bydd rhai o dimau mawr yr Uwch Gynghrair yn dangos diddordeb yn y chwaraewr addawol, pe bai Caerdydd yn methu â chael dyrchafiad.
Newyddion y tîm
Bydd rhaid i Gavin Rae ac Aaron Wildig basio profion ffitrwydd hwyr cyn i Dave Jones benderfynu ar ei dîm ar gyfer y gêm heno.
Fe chwaraeodd Jay Bothroyd yn erbyn Chelsea dydd Sadwrn ar ôl derbyn chwistrelliad i leddfu poen, ac mae’r rheolwr yn gobeithio y bydd ar gael heno eto.
Ond mae Mark Hudson, Miguel Comminges, Joe Ledley, Josh Magennis a Kelvin Etuhu yn parhau wedi’u hanafu, ynghyd â Steve McPhail.