Mae Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi dweud fod yr amser yn iawn i godi treth fechan ar ddelio ariannol rhwng banciau a defnyddio’r arian i ymladd tlodi a newid hinsawdd.
Mae angen sefydlu “trefniadau ariannol arloesol” meddai, gan ddweud nad gwario arian cyhoeddus yw’r unig ffordd o ddatrys problemau cyhoeddus.
Wrth ysgrifennu yng nghylchgrawn grŵp polisi annibynnol Llafur Newydd, Progress, mae Peter Hain yn cyfeirio at ymgyrch sy’n annog arweinwyr gwleidyddol ar draws y byd i sefydlu Treth Twm Sion Cati – Treth ‘Robin Hood’ yn Saesneg.
Byddai’r dreth yn cymryd arian oddi wrth y banciau drwy drethu’r trafodion ariannol rhyngddyn nhw – tua 50c ym mhob £1000 – a’i ddefnyddio i ymladd tlodi, amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus a gweithredu yn erbyn newid hinsawdd.
Mae bron i 50 o sefydliadau sy’n cynnwys elusennau, undebau, a grwpiau amgylcheddol a chrefyddol yn rhan o’r ymgyrch.
‘Brys’
“Mae tlodi rhyngwladol, newid hinsawdd a gwasanaethau cyhoeddus angen ein sylw ar frys,” meddai Peter Hain yn yr erthygl.
Dywedodd y byddai’r dreth Robin Hood yn mynd ran o’r ffordd at ddiwallu anghenion ariannol prosiectau o’r fath.
Mae’n honni fod cefnogaeth gref i sefydlu’r dreth, ac nad yw hynny’n syndod o ystyried y farn boblogaidd mai masnachu ar hap yn y sector ariannol a achosodd yr argyfwng economaidd yn y lle cyntaf.