Mae Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau yn ceisio rhwystro 50 o staff rhag streicio ac atal gwaith yn yr harbwr.
Fe fyddan nhw’n dwyn achos yn yr Uchel Lys heddiw i geisio rhwystro’r gweithwyr rhag gweithredu ddydd Iau a dydd Gwener.
Yn ôl yr Awdurdod, doedd undeb Unite ddim wedi dilyn y broses gywir wrth roi gwybod am y streic ymhlith peilotiaid a chriwiau eraill sy’n helpu tanceri i ddod i mewn i’r harbwr.
Fe fyddai’r gweithredu diwydiannol yn rhwystro unrhyw longau mawr rhag dod i mewn i Aberdaugleddau – ef yw chweched porthladd prysura’ gwledydd Prydain ac mae’n gyfrifol am dderbyn 25% o’r holl betrol a disel sy’n dod i mewn.
Pensiynau
Achos yr anghydfod yw pensiynau – mae’r Awdurdod yn dweud nad fydd hi’n bosib cynnal eu cynllun gwreiddiol i weithwyr.
Maen nhw wedi cynnig cynllun newydd ac yn dweud eu bod wedi ymgynghori’n drylwyr gyda’r gweithwyr i gyd. Maen nhw a’r undeb wedi bod yn cynnal trafodaethau ers pythefnos o dan adain y corff cymodi, Acas.
“Mae’r Awdurdod yn credu bod y pecyn newydd yn un da, a hynny gan gyflogwr sydd wedi ystyried anghenion y gweithwyr a’r busnes yn ofalus,” meddai’r Prif Weithredwr, Ted Sangster.
Yn ôl llefarydd ar ran yr undeb, roedden nhw wedi cynnig gohirio’r streic am 28 diwrnod, gan ddweud bod y trafodaethau’n ennill tir.
Llun: Aberdaugleddau (llun o wefan Awdurdod y Porthladd)