Mae un o gyflwynwyr y BBC wedi cyfaddef iddo ladd cyn gariad oedd yn dioddef o Aids.
Datgelodd Ray Gosling, 70, ar y teledu ei fod wedi mygu ei bartner wrth iddo orwedd yn yr ysbyty “mewn poen erchyll, erchyll”.
“Efallai mai dyma’r amser i rannu cyfrinach yr ydw i wedi ei chadw ers amser hir iawn,” meddai ar y rhaglen Inside Out.
“Fe wnes i ladd rhywun unwaith. Roedd yn fachgen ifanc, roedd o wedi bod yn gariad i mi ac roedd ganddo Aids.”
‘Cytundeb’
Dechreuodd wylo wrth gerdded drwy fynwent yn dweud yr hanes am y doctor yn dweud nad oedd dim y gallen nhw ei wneud.
“Roedd o mewn poen erchyll, erchyll. ‘Gad fi am funud,’ meddwn, ac fe aeth y doctor. Mi godais i glustog a’i fygu o tan ei fod o’n farw. Daeth y doctor yn ôl ac mi ddywedais i, ‘Mae o wedi mynd’.”
Dywedodd Ray Gosling, sydd wedi cyflwyno cannoedd o raglenni ar gyfer y BBC, nad oedd y doctor wedi dweud dim ac nad oedd o erioed wedi difaru yr hyn a wnaeth.
“Pan ydach chi’n caru rhywun, mae’n anodd eu gwylio nhw’n dioddef,” meddai. “Roedd gyda ni gytundeb, os oedd o’n gwaethygu, ac nad oedd modd i neb wneud unrhyw beth.
“Roedd o mewn poen erchyll, roeddwn i yno ac mi welais i hynny. Mae’n eich torri chi’n ddarnau mân.
Ond dywedodd bod “fy nheimladau i am ewthanasia fel jeli – maen nhw’n simsanu o hyd”.
Dywedodd y cyflwynydd ei fod yn deall y byddai’r heddlu eisiau ei holi ynglŷn â’i gyfaddefiad.
Mae helpu rywun arall i farw yn erbyn y gyfraith yng Nghymru a Lloegr gyda dedfryd bosib o 14 blynedd yn y carchar.
Dywedodd y BBC nad oedd yr heddlu wedi cysylltu.