Mae’r arweinwyr milwrol a anfonodd gyn Arlywydd Honduras, Manuel Zelaya, o’r wlad wedi eu cael yn ddieuog o gamddefnyddio eu grym.

Ar ôl y dyfarniad gan Lys Goruchaf Honduras, mae Cyngres y wlad wedi pleidleisio i roi amnest i bawb oedd yn gysylltiedig â’r cyrch, ac i Manuel Zelaya ei hun.

Mae hynny’n golygu na fydd raid iddo yntau wynebu achos llys am frad a chamddefnyddio grym.

Fe ddaeth y penderfyniadau yr un diwrnod ag y cafodd arlywydd newydd y wlad, y Ceidwadwr Porfirio Lobo, ei dderbyn yn swyddogol i’w swydd.

‘Rhy bell’

Nid y disodli ei hun oedd sail yr achos llys ond y ffaith bod yr Arlywydd wedi ei anfon o’r wlad.

Roedd prif erlynydd Honduras yn dweud bod arestio Manuel Zelaya a’i anfon i Gosta Rica wedi mynd yn rhy bell.

Cafodd Manuel Zelaya ei orfodi o’i swydd gan y fyddin ar 28 Mehefin 2008, ar ôl i Gyngres Honduras bleidleisio i’w ddisodli.

Roedden nhw’n ei gyhuddo o geisio newid cyfansoddiad y wlad er mwyn cadw grym am gyfnod pellach.

Cadw heddwch

Penderfyniad y llys oedd bod cyfiawnhad tros anfon Manuel Zelaya o’r wlad, er mwyn cadw heddwch yn Honduras.

Fe ddyfarnodd hefyd nad oedden nhw ddim wedi bwriadu achosi unrhyw niwed i’r gwleidydd adain chwith.

Roedd Manuel Zelaya wedi sleifio’n ôl i Honduras, a chael lloches yn llysgenhadaeth Brasil yn y gobaith y byddai’n gallu ailafael yn ei swydd.

Ond mae cytundeb wedi ei daro a fydd yn caniatáu iddo adael y wlad a mynd i fyw yng Ngweriniaeth Dominica.