Mae rhai o yrwyr trenau Prydeinig Eurostar wedi dechrau ar streic 48 awr heddiw, ar ôl methu dod i gyfaddawd gyda’u cyflogwyr am eu tâl a’u lwfansau.
Y gred yw bod tua 70 aelod o undeb gyrwyr Aslef yn gweithredu’n ddiwydiannol, ac mae bygythiadau y bydd streic arall yn digwydd ar 26 a 27 Rhagfyr.
Mae’r gyrwyr yn cwyno fod gwerth isel y bunt yn golygu fod eu lwfansau yn is na’ gyrwyr Ffrengig sy’n cael eu talu mewn euros.
Roedd rhai o reolwyr Eurostar sy’n aelodau o’r Transport Salaried Staffs Association, hefyd wedi bygwth gweithredu, ond fe dderbynion nhw gynnig newydd ddoe.
Mae adroddiadau eu bod wedi derbyn un tâl o £600 i wneud yn iawn am golledion mewn cyflog oherwydd y bunt wan.
Mae Eurostar wedi cyhoeddi ar eu gwefan y bydd y gwasanaeth yn gweithredu fel arfer dros y penwythnos a dros y Nadolig.
BA – rhybudd arall
Er bod streic gan griwiau caban British Airways wedi ei hatal am y tro, mae undeb Unite yn rhybuddio nad dyma ddiwedd y stori.
Fe fyddan nhw’n mynd ati i gynnal ail bleidlais ymhlith aelodau ar ôl i’r Uchel Lys benderfynu nad oedd y bleidlais gynta’n ddilys – am fod gweithwyr sydd bellach wedi gadael y cwmni wedi cael cyfle i fotio.
“Fydd cyfreitha ddim y rhoi pen ar yr anghydfod yma,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, Derek Simpson. “Fe fydd rhaid cael trafodaethau.”
Mae’r gweithwyr yn cwyno am gyflogau ac amodau gwaith ac am fwriad y cwmni i gwtogi ar nifer y staff sydd ar awyrennau.