Bydd Barry Morgan yn arwain y gwasanaeth carolau yng ngharchar Caerdydd, ddydd Sul ac yn ymuno â gwasanaeth carolau yng Ngharchar Parc, Pen-y-bont ar Ogwr y diwrnod wedyn.

“Mae’r Nadolig yn gallu bod yn amser anodd ac emosiynol i garcharorion gan eu bod nhw wedi’i gwahanu oddi wrth eu teuluoedd,” meddai. “Does ganddyn nhw ddim i edrych ymlaen ato chwaith.

“Ond, mae neges y Nadolig yn berthnasol iddyn nhw hefyd ac mae Duw yn galw arnon ni i weinidogaethu a helpu pobl sy’n wynebu problemau – beth bynnag eu sefyllfa” meddai.

Dod drwyddi’

“Dyw’r rhan fwyaf o garcharorion ddim yn hoffi’r Nadolig. Maen nhw’n rhoi eu pennau i lawr ac yn ceisio dod drwyddi” meddai caplan Carchar y Parc, Dawn Tilt.

“R’yn ni’n trefnu gwasanaeth carolau yn y carchar bob blwyddyn ac mae tua 40 o garcharorion yn dod.

“Dyma’r tro cyntaf y bydd llawer o’r carcharorion ieuengaf wedi dod a fydd rhai ohonyn nhw ddim yn gwybod hanes y geni. R’yn ni’n gobeithio y gwnaiff y carcharorion fwynhau’r gwasanaeth.”

Yn ogystal â chanu, fe fydd yr Archesgob yn cyflwyno tystysgrifau i garcharorion sydd wedi cwblhau cyrsiau Cristnogaeth a bedydd yng Ngharchar Caerdydd.