Mae British Airways wedi ennill eu hachos llys i atal cyfres o streiciau staff dros y Nadolig.
Penderfynodd Uchel Lys Llundain y dylid rhwystro undeb Unite rhag cynnal y streiciau a fyddai wedi parhau o 22 Rhagfyr tan 2 Ionawr.
Roedd BA yn honni bod undeb Unite wedi caniatáu i aelodau nad oedd yn aelodau o’u staff i bleidleisio.
Dywedodd Bruce Carr QC oedd yn cynrychioli BA bod pleidlais yr undeb yn cynnwys “anghysondebau difrifol a sylweddol”.
Dywedodd y byddai streiciau o’r fath wedi difetha “Nadolig llawen i filoedd o bobol”.
“Gwarthus”
“Mae’n ddiwrnod gwarthus i ddemocratiaeth pan mae llys yn gwrthod penderfyniad enfawr gan filiynau o staff mewn pleidlais gudd,” meddai cyd-ysgrifennyddion Unite, Derek Simpson a Tony Woodley.
“Mae’n rhaid i BA dderbyn mai’r unig ffordd i ddatrys yr achos yw drwy drafodaeth. Os na fydd hynny’n digwydd mae’n anochel y bydd pleidlais tros weithredu diwydiannol arall yn cael ei chynnal.”