Mae tîm saith bob ochr Cymru yn wynebu tasg anodd unwaith eto yng nghymal nesaf y gyfres ar ôl cael eu dewis yn yr un grŵp a Seland Newydd a De Affrica.
Fe fydd cymal nesaf y gyfres yn cael ei chynnal yn Seland Newydd ar 5-6 Chwefror. Yn cwblhau’r grŵp mae Niue, ynys yn y Môr Tawel.
Yn y cymal agoriadol, roedd Cymru yn yr un grŵp a phencampwyr y gyfres cynt, De Affrica ynghyd ag Awstralia.
Yn yr ail gymal roedd Cymru’n cystadlu yn erbyn Seland Newydd a Samoa. Methodd Cymru fynd allan o’r grwpiau hynny, ond enillwyd y fowlen yn y ddau gymal.
Maen nhw yn y nawfed safle gydag wyth pwynt yn y gyfres hyd yma, gyda’r Crysau Duon yn arwain y ffordd ar 48 pwynt.
Grwpiau
Grŵp A- Seland Newydd, De Affrica, Cymru, Niue.
Grŵp B- Fiji, Awstralia, Yr Alban, Papua New Guinea.
Grŵp C- Lloegr, Kenya, Yr Unol Daleithiau, Tonga.
Grŵp D- Samoa, Ariannin, Ffrainc, Canada.