Bydd cwmni British Airways yn mynd i’r llys heddiw i geisio rhwystro streic dros y Nadolig gan y criwiau caban.
Maen nhw’n honni bod yna wendidau yn y ffordd y cynhaliodd undeb Unite bleidlais tros weithredu diwydiannol.
Fe allai’r streic o 22 Rhagfyr tan 2 Ionawr dros dâl ac amodau gwaith achosi problemau i filiwn o deithwyr dros gyfnod y Gwyliau.
Fe fydd BA yn gofyn i’r Uchel Lys gyhoeddi gwaharddiad yn rhwystro’r undeb rhag cynnal y streic.
Y nod, yn ôl British Airways, yw gwarchod cwsmeriaid rhag y “pwysau anferth a’r anghyfleustra” y byddai streic undeb Unite yn ei achosi.
‘Anghysonderau’
Ysgrifennodd BA at yr undeb yn cyfeirio at “anghysonderau” yn y bleidlais, gan ddweud nad oedd hi’n ddilys. Maen nhw’n honni bod papurau pleidleisio wedi eu hanfon at bobol oedd wedi gadael y cwmni.
Yn ôl yr undeb, roedd y bleidlais mor gadarn o blaid gweithredu fel na fyddai’r anghysonderau’n gwneud unrhyw wahaniaeth i’r canlyniad.
Maen nhw’n honni bod y cwmni’n newid amodau gwaith ac yn torri ar nifer y staff ar awyrennau heb ymgynghori’n iawn.
Ymateb British Airways
Dywedodd rheolwyr BA eu bod nhw’n ceisio casglu gwybodaeth am weithwyr caban oedd yn barod i weithio yn ystod cyfnod y streic.
“Rydym ni’n benderfynol o warchod ein cwsmeriaid rhag penderfyniad arswydus Unite. Dydyn ni ddim eisiau difetha Nadolig miliwn o bobol,” meddai prif weithredwr BA, Willie Walsh.
“Cafodd Unite wybod am y problemau gyda’r bleidlais ddydd Gwener. Ond fe aeth yn ei flaen gyda’r bygythiad eithafol yma i’n cwsmeriaid a’n busnesau gan wybod na fyddai, o bosib, yn medru gweithredu arno.”