Glaw sy’n cael y bai gan y Llywodraeth am gwymp yn nifer yr ymwelwyr a ddaeth i Gymru tros gyfnod o ddwy flynedd.
Fe gyhoeddodd y Ceidwadwyr ffigurau sy’n dangos gostyngiad o tuag 11% rhwng 2006 a 2008.
• Yn 2006, fe wnaed 10.75 miliwn o deithiau i Gymru gan ymwelwyr o wledydd Prydain a gweddill y byd.
• Erbyn 2008, roedd y ffigwr i lawr i 9.56 miliwn.
Doedd y ffigurau ddim yn syndod, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad o gofio am hafau gwlyb 2007 a 2008.
Roedd hefyd yn honni fod ffigurau cychwynnol ar gyfer mis Awst eleni yn dangos cynnydd o 18% ar y llynedd.
Dirwasgiad
Mae’r cwymp yn y ffigurau yn cyd-daro â’r penderfyniad i dynnu’r hen Fwrdd Croeso i mewn i fod yn rhan o Lywodraeth y Cynulliad.
Dyw hi ddim yn glir eto beth fydd union effaith y dirwasgiad ond mae’r diwydiant yn gobeithio y bydd gwerth isel y bunt yn annog ymwelwyr Prydeinig i aros yn y Deyrnas Unedig ac yn gwneud Cymru’n fwy deniadol i ymwelwyr tramor.
Fe fydd ymgyrch newydd arbennig yn cael ei lansio tros gyfnod y Nadolig i ddangos manteision gwyliau yng Nghymru o’u cymharu â phecynnau tramor.
Beirniadaeth y Ceidwadwyr
“Mae’r ffigurau’n dangos nad yw Llywodraeth y Cynulliad – sydd bellach yn gwbl gyfrifol am dwristiaeth yng Nghymru – wedi methu â manteisio ar y cyfleoedd hyn, yn enwedig yn y farchnad gwyliau byr, asgwrn cefn y diwydiant yng Nghymru.” – David Melding, llefarydd y Ceidwadwyr ar yr economi.
Llun: Aberystwyth