Mae arweinwyr y byd yn wynebu sialens anferth wrth iddyn nhw gyrraedd Uwch Gynhadledd Copenhagen heddiw.
Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwya’ o sylwebyddion yn anobeithio wrth i’r rhwyg dyfu rhwng gwledydd cyfoethog a gwledydd sy’n datblygu.
Mae’r Prif Weinidog, Gordon Brown, ymhlith mwy na chant o benaethiaid gwledydd sy’n teithio i Ddenmarc yn y gobaith o allu arwyddo cytundeb newydd ynglŷn â newid hinsawdd.
Protestiadau
Fe fydd miloedd o ymgyrchwyr yno hefyd ac mae disgwyl protestiadau mawr yn ystod y dydd – yn enwedig wrth i lai lwyddo i gael lle yn yr Uwch Gynhadledd ei hun.
Mae rhai o’r mudiadau wedi addo cynnal protestiadau y tu mewn a’r tu allan i’r ganolfan gynadledda.
Ac mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi gwneud apêl funud ola’ am gyfaddawd er mwyn cael cytundeb.
Erbyn hyn, mae yna nifer o ddadleuon sylfaenol yn atal unrhyw ddatblygiadau, a’r rheiny yn benna’ rhwng y gwledydd cyfoethog sy’n gyfrifol am y rhan fwya’ o’r nwyon tŷ gwydr a’r gwledydd sydd eisiau cynyddu’n economaidd.
Problem 1 – pa lefel o gynhesu?
Maen nhw’n anghytuno ynglŷn â’r lefel o gynhesu byd-eang i anelu amdano. Mae’r gwledydd cyfoethog eisiau cyfyngu unrhyw gynnydd mewn tymheredd i 2 radd Celsius; mae’r gwledydd sy’n datblygu eisiau mynd ymhellach a gosod trothwy o 1.5 gradd.
Y gwledydd tlawd ar y cyfan sy’n diodde’ fwya’ oherwydd newid hinsawdd ac fe allai’r hanner gradd wneud gwahaniaeth o ran sychder, stormydd a chynnydd yn lefel y môr.
Problem 2 – y cyfoethogion yn osgoi cyfrifoldeb?
Mae yna amheuon y bydd y gwledydd cyfoethog yn ceisio meddalu targedau i ostwng lefelau nwyon tŷ gwydr.
Mae bloc o 135 o wledydd sy’n datblygu eisiau parhau gyda thargedau a osodwyd gan Gytundeb Kyoto yn nechrau’r 90au; mae’r gwledydd cyfoethog eisiau cytundeb newydd sy’n gosod mwy o gyfrifoldeb ar bawb.
Ddoe, fe awgrymodd llefarydd ar ran yr Unol Daleithiau na fydden nhw’n bodloni ar unrhyw ostyngiadau pellach yno.
Problem 3 – faint o gymorth?
Does dim cytundeb tros faint o arian y dylai’r gwledydd cyfoethog ei roi i helpu’r gwledydd tlotach.
Hyd yma, y cyfan sy’n cael ei gynnig yw $10 biliwn y flwyddyn am y tair blynedd nesa’; mae’r gwledydd sy’n datblygu yn dweud bod angen llawer mwy.
Eu dadl yw bod gwledydd y Gorllewin eisoes wedi elwa trwy gynnydd economaidd ac wedi llygru’r amgylchedd wrth wneud hynny, felly mae angen iddyn nhw gael cymorth a fydd yn caniatáu iddyn nhwthau dyfu’n economaidd ond mewn ffordd gynaladwy.
Apêl Ban Ki-moon
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon wedi galw am gytundeb gwleidyddol cry’ yng Nghopenhagen.
Wedyn, meddai ar ddechrau cyfnod ola’r trafodaethau, fe fyddai modd symud ymlaen at gytundeb cyfreithiol i osod targedau pendant yn gynnar yn 2010.
“Am dair blynedd, dw i wedi bod yn trïo dod ag arweinwyr y byd at y bwrdd,” meddai. “Fydd neb yn cael popeth y maen nhw’n dymuno’i gael; ond os gweithiwn ni gyda’n gilydd, fe gaiff pawb bopeth sydd ei angen arnyn nhw.”