Mae cwmni hedfan British Airways wedi dechrau achos cyfreithiol mewn ymgais i atal staff rhag mynd ar streic 12 diwrnod.

Byddai streic o’r fath yn bygwth achosi anhrefn llwyr i dros filiwn o deithwyr dros y Nadolig.

Yn ôl BA, maen nhw wedi penderfynu cymryd camau cyfreithiol er mwyn “amddiffyn cwsmeriaid rhag straen ac aflonyddwch enfawr” dros y Nadolig.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad Undeb Unite i gynnal streic rhwng Rhagfyr 22 ac Ionawr 2.

Yn y cyfamser, mae British Airways wedi ysgrifennu at Undeb Unite yn tynnu sylw at “anghysondebau” yn eu hachos, sydd yn ôl y cwmni, yn gwneud y bleidlais dros streic yn “annilys”.

Roedd BA eisoes wedi galw ar yr Undeb i ganslo’r gweithredu diwydiannol erbyn 2pm heddiw ac Unite wedi gwrthod.


“Difetha miliwn o Nadoligau”

“Rydan ni’n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein cwsmeriaid rhag penderfyniad anghyfiawn Unite. Dydy’ ni ddim eisiau gweld miliwn o Nadoligau wedi eu difetha,” meddai Prif Weithredwr BA, Willie Walsh.

Mae Unite yn protestio yn erbyn newidiadau i niferoedd staff, rhewi cyflogau yn ogystal â chynlluniau i gyflwyno gwahanol amodau a chyflogau i staff newydd.