Mae disgwyl i brif sgoriwr Caerdydd, Peter Whittingham fod ar gael i wynebu Caerlŷr ddydd Sadwrn.

Bu’n rhaid i’r asgellwr adael y cae cyn hanner amser yn y fuddugoliaeth yn erbyn Middlesborough ddydd Sul diwethaf.

Ond dyw’r anaf ddim mor ddifrifol ag ofnwyd yn wreiddiol.

Mae disgwyl i Kevin McNaughton fod yn ffit hefyd ar ôl ei anaf yn erbyn tîm Gordon Strachan.

Kelvin Etuhu wedi anafu

Fe fydd hyn yn hwb mawr i Gaerdydd wrth iddyn nhw geisio dal fyny gyda West Brom sy’n ail yn y Bencampwriaeth.

Ond fe fydd yr Adar Glas heb eu chwaraewr ar fenthyg, Kelvin Etuhu, sy’n wynebu cyfnod arall ar yr ystlys oherwydd anaf i’w bigwrn yn Stadiwm Riverside.

Mae ‘na bryder ei fod wedi dioddef niwed i’w denynnau.

Mae Etuhu sydd ar fenthyg o Man City eisoes wedi colli dros ddau fis o’r tymor ar ôl anafu ei bigwrn yn erbyn Newcastle Utd yn gynharach yn y tymor.