Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi cynlluniau i brynu 22 o hofrenyddion Chinook er mwyn cynyddu’r gefnogaeth i’r fyddin o’r awyr yn Afghanistan.

Fe ddaw’r newyddion oriau cyn bydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Bob Ainsworth, yn cyhoeddi toriadau i rannau eraill o’r gyllideb filwrol.

Dywedodd Bob Ainsworth y byddai’r ddeg hofrennydd gyntaf yn barod erbyn 2013. Fe fydd yn cynyddu’r nifer o hofrenyddion trwm sydd gan Brydain o 48 i 70.

Beirniadaeth

Mae’r Llywodraeth wedi cael ei feirniadu’n gyson am roi milwyr mewn peryg o gael eu lladd a’u hanafu gan fomiau ar ochr y ffordd yn Afghanistan. Mae prinder hofrenyddion wedi golygu bod yn rhaid iddynt deithio ar y tir.

“Mae’r milwyr yn Afghanistan wedi dweud bod y Chinook yn angenrheidiol ar y llinell flaen. Felly rwy’n hapus iawn i gyhoeddi cynlluniau i ddarparu rhagor o’r hofrenyddion”, meddai’r Ysgrifennydd Amddiffyn.

Mae’r hofrenyddion Chinook newydd yn rhan o raglen wario ehangach gwerth £6bn dros y ddegawd nesaf.