Bydd criwiau caban British Airways yn mynd ar streic am 12 diwrnod dros gyfnod y Nadolig.

Pleidleisiodd aelodau undeb Unite yn gryf o blaid streic ar ôl brwydr chwerw dros swyddi, tâl ac amodau gwaith. Bydd y streiciau yn digwydd rhwng Rhagfyr 22 ac Ionawr 2.

Dyw union ganlyniad y bleidlais ddim wedi cael ei gyhoeddi eto ond dywedodd ffynonellau bod 80% o staff wedi pleidleisio, a bod 9 o bob 10 o blaid streicio.

Gallai streic gostio degau o filoedd o bunnoedd bob dydd i’r cwmni, gan atal awyrennau ar un o adegau prysuraf y flwyddyn.

‘Dim dewis’

Dywedodd y gangen o undeb Unite sy’n cynrychioli’r criwiau caban, Bassa, eu bod nhw’n ymwybodol y byddai’r streic yn achosi trafferthion i deithwyr sy’n mynd ar wyliau neu’n ymweld â theulu.

Ond dywedodd Bassa nad oedd rheolwyr BA wedi rhoi unrhyw ddewis iddyn nhw, ac wedi gwneud toriadau a fydd yn effeithio ar safon y gwasanaethau i gwsmeriaid.

Roedd prif weithredwr BA, Willie Walsh, wedi annog aelodau Unite i beidio â streicio.