Mae cirw o weithwyr rheilffordd yn ne Cymru wedi dechrau ar chwe diwrnod o streic heddiw mewn ffrae dros drefn gwaith mewn canolfan reoli newydd.

Dywedodd undeb yr RMT y byddai’r streic gan weithwyr sy’n rheoli signalau ar y rheilffyrdd yn ne Cymru a’r Mers yn cael effaith ar y gwasanaeth trenau. Ond mae cwmni Network Rail yn gwadu y bydd oedi.

Mae’r undeb yn honni mai dim ond pum awr o hyfforddiant y mae’r staff sy’n cymryd lle’r streicwyr wedi ei gael ar gyfer cyfrifoldebau a fyddai fel arfer yn cymryd mis i’w dysgu’n iawn.

Bydd gweithwyr o Gaerdydd, Casnewydd, Port Talbot, Bro Morgannwg, a Chwm Rhymni yn rhan o’r streic sydd i fod i ddod i ben am hanner nos dydd Sadwrn.

‘Safio arian’

“Mae ein haelodau ni’n benderfynol o atal yr amserlenni gwaith dyletswyddau yn y ganolfan reoli newydd yn ne Cymru. Arbed arian yw’r unig reswm trostyn nhw,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr RMT, Bob Crow.

“Mae hyn yn ymgais gan reolwyr i ganiatáu iddyn nhw wthio staff o le i le a’u gorfodi nhw i weithio 13 diwrnod yn olynol er mwyn arbed arian i Network Rail. Bydd y balans rhwng bywyd a gwaith yn cael ei ddifetha er mwyn gwneud toriadau ariannol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail fod ganddyn nhw ddigon o reolwyr wedi eu hyfforddi “er mwyn rhedeg gwasanaeth arferol o amgylch Caerdydd os yw’r streic yn mynd yn ei blaen”.

Honnodd Network Rail nad oedd gwasanaethau wedi eu heffeithio bore yma, gyda 95% o drenau yn cyrraedd ar amser.