Mae cyn Ysgrifennydd Cartref wedi cyhuddo Gordon Brown o geisio cuddio gwir gyflwr cyllid Prydain rhag y cyhoedd.
Dywedodd Charles Clarke nad oedd y Prif Weinidog eisiau i’r darlun cyfan ddod i’r golwg oherwydd ei fod yn “ofni” ymateb y cyhoedd.
Roedd yr Adroddiad cyn y Gyllideb – a roddwyd gan y Canghellor yr wythnos ddiwetha’ – yn “ailgylchu hen raniadau gwleidyddol” cyn yr Etholiad Cyffredinol, meddai.
Wrth ysgrifennu ar ei flog, dywedodd yr AS o Norwich South y dylai’r Adroddiad cyn y Gyllideb fod wedi gweithredu “er budd cenedlaethol” yn hytrach nag “er lles y blaid”.
Dywedodd y dylai’r Llywodraeth gydnabod eu bod nhw wedi gwneud cawlach o bethau cyn y wasgfa ariannol a’u bod nhw wedi dysgu eu gwersi.
Etholiad cynnar?
Mae yna ddyfalu ar hyn o bryd y gallai’r Prif Weinidog alw Etholiad yn gynt na’r disgwyl – ym mis Mawrth, ddeufis cyn bod rhaid.
Roedd yna straeon hefyd – sydd wedi eu gwadu gan y Llywodraeth – bod Gordon Brown wedi atal y Canghellor rhag mynd ymhellach tuag at leihau’r ddyled genedlaethol.