Fe allai teithwyr trên yn Ne Cymru’n wynebu anhrefn ychydig ddyddiau cyn y Nadolig wrth i weithwyr signalau fynd ar streic.

Ond mae cwmni Network Rail yn dweud bod ganddyn nhw gynlluniau wrth gefn ac y bydd y streic yn wastraff amser.

Fe fydd aelodau o undeb trafnidiaeth yr RMT yn gadael eu gwaith rhwng dydd Llun, Rhagfyr 14, a dydd Sadwrn, Rhagfyr 19, i brotestio yn erbyn trefniadau gwaith mewn canolfan reoli newydd.

Maen nhw’n cyhuddo Network Rail, y cyflogwyr, o orfodi’r trefniadau gwaith newydd arnyn nhw, o ddinistrio cytundebau sy’n bod ar hyn o bryd, a’r cyfan er mwyn arbed arian.

Mwyafrif o blaid streic

Roedd y gweithwyr o ardal De Cymru a’r Gororoau wedi pleidleisio o 2-1 o blaid streic.

Maen nhw’n yn dweud eu bod yn hapus gyda’r shifftiau 12 awr sy’n bod ar hyn o bryd yn hytrach na’r shifftiau wyth awr fydd ng Nghanolfan Reoli De Cymru pan fydd honno’n agor ym mis Ionawr.

“Mae ein haelodau yn ffyrnig oherwydd yr ymgais i wthio trefniadau arnyn nhw,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr RMT, Bob Crow. “Mae eu cefnogaeth i’r streic yn y bleidlais yn dangos pa mor benderfynol ydyn nhw i orfodi rheolwyr i ailfeddwl.”

Yn ôl llefarydd ar ran Network Rail, mae trefniadau gwaith hen ffasiwn yn costio’n ddrud i’r cwmni ac i deithwyr. “Rhaid i’r RMT gydnabod realiti economaidd a thynnu ei hun i’r byd gwaith cyfoes,” meddai.