Mae tîm rygbi saith bob ochr Cymru allan o gystadleuaeth y Cwpan yn yr ornest ryngwladol yn Dubai.
Fe gollodd y Cymry eu dwy gêm gynta’ – yn erbyn De Affrica ac Awstralia – a’u hunig obaith bellach yw gwneud yn dda yng nghystadleuaeth lai pwysig y Bowlen.
Collodd Cymru 28-14 i’r Springboks gyda De Affrican’n croesi’r llinell gais bedair gwaith trwy Mzwandile Stick, Paul Delport, Ryno Benjamin a Mpho Mbiyozo.
Ar ôl bod 21-0 ar ei hôl hi, roedd Cymru wedi ymateb gyda cheisiau gan Lloyd Williams ac Alex Cuthbert, ond roedd De Affrica yn rhy gryf i dîm Paul John.
Awstralia
Roedd yr ail gêm ychydig yn fwy cystadleuol ond bod Cymru wedi mynd ar ei hôl hi eto.
Clinton Sills a gafodd gais cynta’r gêm i Awstralia wedi pum munud, gyda Nick Phipps yn trosi i roi i sicrhau bod y Wallabies 7-0 ar y blaen ar hanner amser.
Yn ôl ddaeth Cymru gan sgorio cais ym munudau agoriadol yr ail hanner, trwy Jevon Groves a throsiad Gareth Davies unioni’r sgôr.
Ond fe gipiodd Ed Quirk y gêm i Awstralia gydag ail gais i sicrhau dechrau siomedig i Gymru. Mae eu gêm olaf yn y grŵp yn erbyn y Gwlff Arabaidd heno.
Fe fyddai buddugoliaeth yn mynd â nhw i rownd wyth olaf cystadleuaeth y Bowlen lle mae’r Alban yn eu haros.
Llun: Dyddiau gwell – carfan rygbi saith bob ochr Cymru yn ennill Cwpan y Byd y llynedd