Mae amddiffynnwr ifanc Caerdydd, Adam Matthews, yn dweud bod y garfan wedi rhoi canlyniadau gwael mis Tachwedd y tu cefn iddyn nhw, a’u bod yn canolbwyntio ar aildanio’u tymor.
“Mae mis Tachwedd tu cefn i ni nawr, ac rydym yn edrych i gael cyfres o gemau llwyddiannus gan ddechrau yn erbyn Preston dydd Sadwrn”, meddai.
Wnaeth yr Adar Glas ddim ennill yr un gêm trwy fis Tachwedd, gan golli tair a chael un gêm gyfartal. Fe fydd rhaid ennill nifer o gemau anodd er mwyn ailymuno gydag arweinwyr y Bencampwriaeth.
Fe fydd gan glwb y brifddinas chwe gêm i’w chwarae yn ystod y mis nesaf, gan gynnwys gemau oddi cartref yn erbyn Middlesborough a West Brom sydd yn y tri ucha’.
“Mae gyda ni gêmau anodd ond mae gyda ni dîm sy’n ddigon medrus i ennill y gemau hynny, ac rwy’n credu y gallwn ni ennill”, meddai Matthews.
“Os gallwn ni gael canlyniadau positif dros yr wythnos nesaf, fe fyddwn ni ‘nôl ymysg y timau ar frig y tabl.”
Fe fydd cefnogwyr Caerdydd yn falch bod Adam Matthews yn canolbwyntio ar ymgyrch yr Adar Glas – mae’n cael ei gysylltu gyda symud i’r Uwch Gynghrair at Man Utd neu Arsenal.