Fydd yna ddim streiciau post dros y Sul na thros weddill y flwyddyn.

Mae’r ddwy ochr yn yr anghydfod wedi cytuno i drafod ymhellach a fydd dim gweithredu diwydiannol yn digwydd yn y cyfamser.

Fe wnaed y cyhoeddiad heddwch gan Brendan Barber, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres Undebau Llafur, y TUC, ar ôl dyddiau o drafodaethau o dan ei arweiniad ef.

Roedd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu wedi bwriadu mynd ar streic fory a ddydd Llun ond mae’r gweithredu hwnnw bellach wedi ei atal.

Y bwriad gyda’r cadoediad tan ddiwedd y flwyddyn yw rhoi’r cyfle i’r ddwy ochr drafod strategaeth foderneiddio ar gyfer y Gwasanaeth Post.

Mae’r Post Brenhinol yn mynnu fod rhaid cael newid ond roedd anghydfod wedi codi tros ddyfodol swyddi, tâl ac amodau gwaith.