Mae dau fachgen 12 oed a gafodd eu hachub o’r môr dair blynedd yn nôl, nawr yn hyfforddi i fod yn swyddogion achub bywyd.

Maen nhw’n efelychu’r dyn a helpodd i’w hachub – eu hewythr, a oedd wedi cael hyfforddiant achub bywyd.

Roedd y ddau gefnder, Max Harris a Jac Hopkins, wedi mynd i drybini ar ddiwrnod allan gyda’u teuluoedd ar draeth ym Mhenrhyn Gŵyr.

Sugno allan

Roedden nhw wedi cerdded i mewn i’r môr, ac wedi cael eu sugno allan 50 metr i’r dŵr gan y llanw. Gan fod y llanw mor gryf, doedd y bechgyn ddim yn gallu nofio nôl i’r lan, a doedd pobol ddim yn gallu mynd allan i’w hachub.

Ar ôl tua 15 munud, cafodd y ddau eu tynnu allan gan eu hewythr, ac maen nhw’n dal i gofio pa mor lwcus fuon nhw.

Mae’r ddau nawr wedi dechrau cwrs diogelwch dŵr ym Mhwll Nofio Cenedlaethol Cymru yn Abertawe.

Mae’r cwrs yn dysgu plant ac oedolion ynglŷn â diogelwch yn y môr, yn ogystal â gwersi nofio ac achub bywyd, a beth i’w wneud mewn argyfwng.


‘Anhygoel o lwcus’

Dywedodd mam Max wrth wefan Dinas a Sir Abertawe eu bod nhw wedi bod yn “anhygoel o lwcus”.

“Roedd y bechgyn yn iawn ond mae’r digwyddiad dal yn cael effaith arna i heddiw,” meddai. “Dw i’n falch iawn fod gyda nhw gyfle i gael gwersi achub bywyd.

“Petai ewythr Max ddim wedi cael hyfforddiant, fe fyddai hi wedi bod ar ben arnyn nhw.”