Fe fydd hi’n costio £48,000o blismona’r gêm rhwng Caerdydd ac Abertawe yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Cafodd y swm ei gytuno wedi wythnosau o drafodaethau, ac fe fydd Abertawe yn talu’r costau.

Ond, er gwatha’ helyntion yn y maes y llynedd, fe fydd llai o heddweision yn y stadiwm eleni oherwydd bod yna fwy o stiwardiaid.

“Gallaf gadarnhau y bydd yna fwy na 400 o swyddogion yn plismona’r gêm, sydd yn llai na nifer y plismyn a ddefnyddiwyd y tymor diwethaf”, meddai’r Prif Uwch-arolygydd, Mark Mathias wrth yr papur newydd lelol yr Evening Post.

Drwgdeimlad

Y tymor diwetha’ roedd carfan fach o gefnogwyr Abertawe wedi taflu poteli, cerrig a darnau o bren tuag yr heddlu ac fe fu rhai o gefnogwyr Caerdydd yn rhwygo seddau allan yn y stadiwm hedfyd.

Roedd hynny’n dilyn blynyddoedd o ddrwgdeimlad rhwng cefnogwyr y ddau glwb,l

Mae tocynnau i’r gêm wedi gwerthu mas, gyda 1,800 o gefnogwyr yr Adar Glas yn teithio i Abertawe i wylio’r gêm.