Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu wedi gwrthod ymateb i hysbysebion gan y Post Brenhinol sy’n cyhuddo’r undeb o gamarwain ei aelodau dros y streiciau post.
Mae’r hysbysebion, sydd mewn papurau Prydeinig a rhanbarthol, yn ymfflamychol iawn gan gyhuddo’r CWU o wneud drwg i’w aelodau ei hun.
Dyw’r naill ochr na’r llall ddim i fod i wneud datganiadau i’r wasg tra bod trafodaethau’n digwydd. Yn ôl llefarydd ar ran y CWU, roedd penderfyniad y cyflogwyr i gyhoeddi’r hysbysebion yn “ddehongliad diddorol” o hynny.
Mae’r undeb yn cael eu cyhuddo o ddweud eu bod o blaid newid ond o geisio’i atal, o fod wedi addo peidio â streicio ac wedyn gwneud hynny ac o newid ei stori dro ar ôl tro.
Mae’r hysbysebion sydd wedi eu hanelu’n uniongyrchol at weithwyr y Post Brenhinol yn dweud hefyd y byddai’r cwmni’n hoffi gweld “undeb cryf a theg” sy’n cynrychioli’r gweithwyr yn hytrach na “distrywio’u buddiannau”.
Fe gadarnhaodd y llefarydd ar ran yr undeb bod y trafodaethau rhwng y ddwy ochr wedi dechrau eto o dan adain y TUC ac mae’r gobaith oedd gallu cael digon o gytundeb i atal y streic ddydd Gwener.